Mae’n bleser gennyf gael eich croesawu i wefan Ysgol Glancegin.
Mae Ysgol Glancegin yn ysgol unigryw ac mae ynddi blant arbennig iawn. Mae nhw’n arbennig oherwydd eu hanwyldeb.
Rydym yn ffodus iawn o gael adeilad ysgol newydd arbennig; ond ein disgyblion sy’n llenwi’r adeilad gyda’u hapusrwydd; achos mae i Ysgol Glancegin, ethos arbennig iawn.
Mae’r cyfrifoldeb arnom ni y staff yn fawr, oherwydd ein bod yn y sefyllfa freintiedig o wneud gwahaniaeth i fywydau ifanc. Mae gennym ddyletswydd i ofalu fod pob unigolyn bach sydd dan ein gofal, yn llwyddo.
Mae llwyddiant yn magu llwyddiant a balchder mewn gwaith yn arwain at fwy o ymdrech, mwy o lwyddiant, a pharch at eraill. Llwyddiant emosiynol, cymdeithasol ac addysgiadol sy’n galluogi pob plentyn i fwynhau dysgu ac i gyflawni ei botensial. Dyma’r nod yn Ysgol Glancegin, a hynny gyda’r adnoddau gorau; a thrwy greu amgylchfyd ac awyrgylch iddynt dyfu’n hyderus. Tyfu i fod yn falch o fod yn berson ifanc yn Maesgeirchen, ac yn falch o’u cymuned. Datblygu’n aelodau cyfrifol o’u cymdeithas; yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn weithredol yn economaidd, yn bersonol, ac yn ddysgwyr gydol oes.
‘Maethu, ysbrydoli, ffynnu’ yn eiriau arbennig sy’n adlewyrchu ymdrechion a chydweithrediad y rhanddeiliad i wasanaethu plant a theuluoedd Masegeirchen yn llwyddiannus.