
Cefnogi Teuluoedd
Yn Ysgol Glancegin, rydym yn credu bod partneriaeth gref rhwng yr ysgol a’r cartref yn allweddol i sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu. Rydym yn deall y gall teuluoedd wynebu amrywiaeth o heriau ar adegau, ac rydym am sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn gwybod nad oes rhaid ymdopi ar eu pen eu hunain.
Gall yr ysgol helpu drwy eich cyfeirio at y gefnogaeth gywir a rhannu gwybodaeth am wasanaethau ac asiantaethau a allai fod o gymorth.
Gallwn:
- Rannu gwybodaeth am wasanaethau a sefydliadau lleol.
- Eich cyfeirio at asiantaethau cymorth priodol.
- Eich cefnogi i gysylltu â gwasanaethau arbenigol pan fo angen.
- Gynnig sgwrs gyda aelod o staff i drafod unrhyw bryderon.
Ein nod yw sicrhau bod pob teulu yn teimlo wedi’i gefnogi ac yn gwybod ble i droi am gymorth. Os oes unrhyw beth yn peri pryder i chi, neu os hoffech gael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch â’r ysgol.
Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth am ddim i deuluoedd. Am ragor y wybodaeth, cliciwch y linc - Cefnogi Teuluoedd - Cyngor Gwynedd