Ysgol Glancegin

Dechrau'r Ysgol

Sut wyf yn ymgeisio am le mewn Ysgol?

Yr Adran Addysg yw awdurdod caniatáu mynediad yr ysgolion ac mae’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch mynediad. Nid oes gan benaethiaid yr ysgolion hyn unrhyw ran yn y broses fynediad ac ni fyddant yn trafod y lleoedd sydd ar gael. Rhaid cyflwyno’r holl geisiadau am fynediad i’r Awdurdod yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio’r ffurflenni a ddarperir (ar gael yn yr ysgolion neu ar Gwefan Cyngor Gwynedd).

Dosbarth Meithrin Ysgol Rhan Amser

Mae’r Awdurdod yn cynnig lle meithrin rhan amser (10 awr yr wythnos) i blant mewn ysgol, yn y mis Medi yn dilyn eu trydydd pen-blwydd, am flwyddyn ysgol lawn. Fel arfer mae gan ysgolion unai sesiwn bore neu sesiwn prynhawn.

Dylid nodi o dan reolau Llywodraeth Cymru nad yw penderfyniad i roi mynediad i blentyn i ddosbarth meithrin yn sicrhau neu wella’r tebygolrwydd o dderbyn lle yn nosbarth derbyn yr ysgol honno. Mae rhaid gwneud cais ar wahân.
Disgwylir bod eich plentyn yn gallu ddefnyddio'r toiled cyn cychwyn yn yr ysgol, oni bai bod gan eich plentyn gyflwr meddygol neu anghenion dysgu ychwanegol.

Dosbarth Derbyn Llawn Amser

Mae’r Awdurdod yn cynnig i blant le llawn amser mewn dosbarth derbyn yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed. Dylid nodi o dan reolau Llywodraeth Cymru nad yw penderfyniad i roi mynediad i blentyn i ddosbarth meithrin yn sicrhau neu wella’r tebygolrwydd o dderbyn lle yn nosbarth derbyn yr ysgol honno. Mae rhaid gwneud cais ar wahân.

Cyn dechrau yn yr ysgol mae disgwyl i'r plentyn:

  • Allu dweud wrth oedolyn pryd mae angen iddynt ddefnyddio'r toiled.
  • Gallu defnyddio'r toiled gyda chymorth lleiaf posibl.
  • Gallu rheoli eu dillad (tynnu trowsus i fyny/i lawr).
  • Bod yn gyfarwydd â sychu a hylendid sylfaenol, fel golchi dwylo.